O DDIFRIF AM AD-ENNILL ANNIBYNIAETH ? YNA MYNNWCH DDYDD Y BANC AR GYFER MEDI 16 I DDATHLU CYCHWYN RHYFEL AM ANNIBYNIAETH TYWYSOG OWAIN GLYNDŴR AR Y DYDDIAD HYNNY YN 1400 AC I DDATHLU, YN OGYSTAL, BOD Y FRWYDR HONNO YN PARHAU NES IDDI GAEL EI HENNILL.
Fe wnes i geisio a chychwyn deiseb gyda Chynulliad Cymru yn y flwyddyn 2000, ac eto llynedd, i gasglu enwau rai o blaid cael Gŵyl y Banc i nodi a dathlu Dydd Glyndŵr ar Fedi 16. Yr ateb ges i ar y ddau achlysur oedd ' na' i lansio’r ddeiseb gan nad oedd gan beth elwir (yn gamarweiniol) yn 'Senedd Cymru' erbyn hyn yr awdurdod i sefydlu Gwyliau Banc! Pa fath o Senedd di-ddanedd sydd gennym ni felly, os nad oes ganddi'r awdurdod i lywodraethu ar bethau mor sylfaenol â Gwyliau Banc? Yr ateb ges i oedd mai dim ond Llywodraeth Llundain sydd gan yr hawl i sefydlu Gwyliau banc ar gyfer y "Deyrnas Unedig"! Felly, mae'n amlwg, mai 'Senedd' di-ddanedd sydd gennym ym Mae Caerdydd, 'Senedd' sydd heb unrhyw awdurdod pan mae'n dod i lywodraethu ar bethau sy'n mynd i fynegi ein cenedligrwydd, felly, pa obaith am Annibyniaeth go iawn os wna wnawn ddeffro o'r 'twyll' yma a chychwyn, o ddifrif, i ymladd amdano achos yr unig ffordd ...