SBARDUNO YMGYRCH STICERI BANER GLYNDŴR - BANER ANNIBYNIAETH CYMRU ELENI FEL HER YN ERBYN Y JIWBILI PLATINWM!

 Mae na syrcas Prydeinig arall ar y gorwel ac yn ogystal a chreu pedwar Gŵyl y Banc ychwanegol  er mwyn i'r boblogaeth allu trefu partion stryd ac ati i ddathlu Jiwbili  Platinwm brenhines Lloegr, bydd siopau ein gwlad yn cael eu llenwi hyd at y trawstiau â phob math o sbwriel/swfeniers ar gyfer y dathlu. 

Byddwch yn barod i weld môr o Brydeindod mewn ffurf  baneri 'Jac yr Undeb' ac, ia "y rhagsyn Tuduraidd" yn mhob thwll a chornel o Gymru hyd at ein syrffed, a byddwch yn barod i orfod dioddef  gweld bradwyr ein cenedl yn penlinio ac yn ffalsio wrth iddyn nhw dywys brenhines Lloegr ac aelodau eraill o'r teulu ar hyd a lled ein gwlad i raddau nas gwelwyd ers Croeso '69. 




Rwan, yda ni  fel gwladgarwyr Cymreig, yn mynd i eistedd yn ôl  a dioddef  hyn yn ddistaw fel taeogion bach da? NA yw'r ateb yn obeithiol! Bydd yna ddigon o gyfleoedd yn codi yn ystod y flwyddyn lle ellir mynegi yn ddigon clir nad yw pawb yng Nghymru am fod yn rhan o'r Syrcas a byddaf yn cynnig awgrymiadau parthed be ellir a dylid ei wneud maes o law mewn blog arall ond, beth ellir ei wneud yn syth bin rwan yw mynegi her drwy chwifio baneri Glyndŵr, ein gwir faner dros Annibyniaeth, mewn pob thwll a chornel ar hyd a lled ein gwlad. Dyma her pendant sydd ddim yn mynnu llawer o ymdrech ond un pwysig a fydd yn mynegi'n glir mai 'Pobl Glyndŵr' ym ni a bod ein teyrngarwch ni yn ffyddlon i'w ymgyrch ef i ad-ennill ein hannibyniaeth, ac nid i frenhiniaeth Lloegr,

Dyma sut y dylai Cymru edrych yn 2022;


...ac nid fel hyn:






Rhywbeth pwysig arall dylid ei wneud yn syth bin fel rhan o'r her yw i  sbarduno'r ymgyrch sticerii sef YMGYRCH STICERI BANER GLYNDŴR - BANER ANNIBYNIAETH CYMRU..Cychwynwyd ar yr ymgyrch yma yn 2020 ac fel y gellir weld o'r lluniau isod, bu i'r sticeri gael eu glynu mewn amrywiaeth o safleoedd ar hyd a lled Cymru gan wladgarwyr ffyddlon ond, dim ond 1000 a gynhyrchwyd  - a hynny ar fy agraffydd fy hunan. Roedd yn waith andros o aradeg i argraffu'r sticeri, ac yna eu torri fesul un a'u chwystrellu i'w gwneud yn addas ar gyfer tywydd gwlyb. Bydd angen miloedd o'r sticeri hyn wedi eu glynu ym mhob thwll a chornel o Gymru os am her gwrth Jiwbili o unrhyw werth ac mae nifer o wladgarwyr ffyddlon wedi addo cyfraniadau ariannol ar gyfer hynny yn barod. Felly, dwi wedi archebu 2000 fel man cychwyn. Mae'r cynllunwaith newydd yn llawer mwy lliwgar na'r rhai a wnaed gennyf i ar fy argraffydd fy hunain (gweler isod) a hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Shep Shepperd am osod yr ysgrifen ar y cynllunwaith i fi gan bod fy photosuite yn rhy hên i allu ymdopi a'r orchwyl o'r math bellach.

Y STICER NEWYDD:


   

Fel dwedais uchod, mae na nifer wedi gwneud addewidion i gyfrannu tuag at y gost o gynhyrchu'r sticer uchod yn barod a dwi wedi mynd ati i archebu 2000 ond, y mwyaf o gyfraniadau sy'n dod i law gora byd. Gellir talu am yr archeb yma ac, yn obeithiol, archebu cyflenwad arall fel cwyd yr angen fel modd o sicrhau bod gan pob gwladgarwr drwy Gymru benbaladr sticeri i wneud eu rhan a chyfrannu i'r her.

 Mae'r sticeri yn gryf ac yn addas ar gyfer pob math o dywydd. Os ydych am gyfrannu yn ariannol tuag at yr her neu, am gael cyflenwad o'r sticeri i gymryd rhan ymarferol yn yr her, cysylltwch â fi ar y negesydd am mwy o wybodaeth.

Nifer o luniau i ddilyn i ddangos rhai o'r mannau lle bu i'r stoc diwethaf o sticeri gael eu glynu:







 








Bydd fersiwn Saesneg o'r blog yma'n cael ei bostio dros y penwythnos.

NOTE: An English version of this blog will be posted over the weekend.

Popular posts from this blog

THE TRUE NATIONAL FLAG OF CYMRU.

MAE'R FRWYDR YN PARHAU!...THE STRUGGLE CONTINUES

WHY ARE CERTAIN ELEMENTS SO AFRAID OF THE GLYNDŴR CYMRIC INDEPENDENCE FLAG?