O DDIFRIF AM AD-ENNILL ANNIBYNIAETH ? YNA MYNNWCH DDYDD Y BANC AR GYFER MEDI 16 I DDATHLU CYCHWYN RHYFEL AM ANNIBYNIAETH TYWYSOG OWAIN GLYNDŴR AR Y DYDDIAD HYNNY YN 1400 AC I DDATHLU, YN OGYSTAL, BOD Y FRWYDR HONNO YN PARHAU NES IDDI GAEL EI HENNILL.

 


Fe wnes i geisio a chychwyn deiseb gyda Chynulliad Cymru yn y flwyddyn 2000, ac eto llynedd, i gasglu enwau rai o blaid cael Gŵyl y Banc i nodi a dathlu Dydd Glyndŵr ar Fedi 16. Yr ateb ges i ar y ddau achlysur oedd 'na' i lansio’r ddeiseb gan nad oedd gan beth elwir (yn gamarweiniol) yn 'Senedd Cymru' erbyn hyn yr awdurdod i sefydlu Gwyliau Banc! Pa fath o Senedd di-ddanedd sydd gennym ni felly, os nad oes ganddi'r awdurdod i lywodraethu ar bethau mor sylfaenol â Gwyliau Banc? Yr ateb ges i oedd mai dim ond Llywodraeth Llundain sydd gan yr hawl i sefydlu Gwyliau banc ar gyfer y "Deyrnas Unedig"!

Felly, mae'n amlwg, mai 'Senedd' di-ddanedd sydd gennym ym Mae Caerdydd, 'Senedd' sydd heb unrhyw awdurdod pan mae'n dod i lywodraethu ar bethau sy'n mynd i fynegi ein cenedligrwydd, felly, pa obaith am Annibyniaeth go iawn os wna wnawn ddeffro o'r 'twyll' yma a chychwyn, o ddifrif, i ymladd amdano achos yr unig ffordd i adennill Annibyniaeth yw i'w gwneud yn ddrudfawr ac amhosibl i'r Drefn Saesneg Lywodraethu ar Gymru.

Yr unig ffordd i ad-ennill Annibyniaeth i Gymru yw gweithredu mwy a mwy fel cenedl annibynnol ac mae Cyngor Sir Gwynedd wedi dangos arweiniad yn hyn o beth drwy wneud y penderfyniad i roi dydd i ffwrdd i'w gweithwyr i gyd er mwyn iddyn nhw allu dathlu Dydd Gŵyl Dewi Sant ac er bod rhaid llongyfarch Cyngor Sir Gwynedd ar y weithred glodwiw hon, mae'n bwysig i ni ddeall a chydnabod na fydd nodi a dathlu Dydd Dewi Sant yn cyfrannu fawr ddim i'r achos am Annibyniaeth. Mewn gwirionedd, bydd yn fwy o rwystr na gwerth i'r achos wrth i'r dydd annog Cymry i chwifio'r 'rhacsyn Tuduraidd' drwy ein gwlad. Y gwir amdani yw, mae pwrpas y 'rhacsyn' yma yw galfanu undod Cymru i'r "Deyrnas Unedig". Dyma'r faner sy'n cael ei chwifio i groesawu aelodau o deulu brenhinol Lloegr ar eu hymweliadau cyson i Gymru i'n hatgoffa i ni fod yn genedl ddarostyngedig sydd wedi ei rheibio a'i galfanu i'r Deyrnas Unedig. Gellir cyflawni'r 'twyll' yma ar y Cymry wrth eu hamddifadu o'u hanes brodorol dros y canrifoedd; cychwynnwyd ar y broses yma o amddifadu drwy gael gwared ar y Clerwyr wedi diflaniad Y Mab Darogan ac yna drwy "Ddeddfau Uno" y Tuduriaid, ac mae'r polisi hwn yn fyw ac yn iach yn y cwricwlwm cenedlaethol heddiw sy'n sicrhau nad yw hanes gwladgarol ac arwrol Cymru yn cael ei addysgu yn ein hysgolion. Felly, canlyniad y cyflyru yma yw bod ein pobl, yn hytrach na chwifio baner Glyndŵr - sy'n symbol cryf o'r brwydro am Annibyniaeth yng Nghymru heddiw, maent yn chwifio'r 'rhagsyn Tuduraidd' sy'n symboleiddio ein caethiwed fel cenedl.


Eleni, gwelir dathliad Jiwbilî Frenhinol Brydeinig arall a byddem yn cael ein boddi yn symbolaeth y Drefn Brydeinig a'u teulu brenhinol mha hynny'n sicr, felly, oni fyddai wedi bod yn fwy priodol petai Gyngor sydd o dan arweiniad Plaid Cymru, Plaid sydd, erbyn hyn, yn honni i fod o blaid Annibyniaeth i Gymru i fod wedi cyhoeddi eu bod am anrhydeddu Tywysog Owain Glyndŵr a'i Rhyfel fawr a hir am Annibyniaeth drwy optio am Ŵyl Banc Dydd Glyndŵr ? Yn ogystal, oni fyddai'n fwy addas i Gyngor Gwynedd yn ogystal â phob Cyngor Sir arall yng Nghymru i fod yn annog ysgolion sydd o dan eu gofalaeth i fod yn chwifio baner Owain Glyndŵr yn hytrach na'r 'rhagsyn Tuduraidd' baner brenhinoedd Tuduraidd Lloegr.

Diolch am yr ysgolion sy'n gwneud hynny beth bynnag heb unrhyw anogaeth.



Yn ogystal, fe ddylai Cyngor Gwynedd, yn fwy nac unrhyw Gyngor arall drwy Gymru benbaladr beidio ag anghofio sut bu i diriogaeth ac Annibyniaeth Cymru gael ei ladrata'n drylwyr nes bod dim ar ôl a sut bu i Dywysogaeth Gwynedd ddod i ben gyda llofruddiaethau creulon Llywelyn a Dafydd ap Gruffydd a'u teuluoedd.

 Oni ddylai Cyngor Gwynedd Cyngor Gwynedd godi cofeb ar dir y Parc Cenedlaethol yn Abergwyngregyn i anrhydeddu a choffau Dafydd ap Gruffydd a'i deulu a'r milwyr dewr a frwydrodd gydag ef ar Fera Mawr hyd at y diwedd?

Gellir ddarllen am ddiweddglo trist Tywysogaeth Brehinol Gwynedd yn y ddolen isod;

https://glyndwrramblers.blogspot.com/2022/01/the-tragic-end-to-royal-house-of_24.html 

Dyna'r cefndir hanesyddolsy'n alluogi'r Drefn Brydeinig i wneud defnydd o'u pypedau brenhinol i dresbasu ar hyd a llen ein cenedl yn arf synicaidd i'n cadw yn gaeth i'w 'Teyrnas Unedig' nhw. Felly, beth, mewn gwirionedd, dylai gael blaenoriaeth fel ein Gŵyl y Banc, Dydd Dewi, lle gwelir lle gwelir Cymru wedi ei foddi mewn 'rhacs Tuduraidd a sbwriel ffug eraill fel cannyn pedr neu, Gŵyl y Banc Dydd Glyndŵr ar Fedi 16 gydag ein gwlad dan fôr o faneri Glyndŵr? Pa un fyddai'n gyrru neges glir ac uchel yn ôl i lywodraeth Prydain...RYDYM YN GENEDL A PHOBOL GYDWYBODOL SY'N PARHAU A'R FRWYDR I AD-ENNILL EIN HANNIBYNIAETH!

Gweler yr erthygl yn y ddolen isod sy'n esbonio llawer mwy am y baneri a symbolau 'ffug' eraill sydd wedi eu gorfodi arnom i'n twyllo.

<http://banerglyndwr.blogspot.com/2018/02/the-true-national-flag-of-cymru.html>

Ymysg y sothach i ddathlu'r Jiwbilî Platinwm eleni fydd baner Dewi Sant gyda logo'r Jiwbilî Platinwm arni (gweler isod) i sicrhau bod ni'r Cymry ufudd yn gallu prynu i fod yn barod ar gyfer addurno'n tai, gerddi a strydoedd ar gyfer y dathlu. Heb unrhyw amheuaeth, dilynir y rhain gyda 'rhacs Tuduraidd' gyda'r logo arnynt cyn bo hir mae'n siŵr.





Felly, yn ogystal â galw ar y Senedd ynghyd a Chynghorau Cymru i ddynodi 16 Medi Dydd Glyndŵr yn Wyl blynyddol swyddogol, rydym yn galw ar i weithwyr Cymru gymryd y 16 Medi i ffwrdd er mwyn dynodi a sefydlu'r dydd yn Wyl y Banc yng Nghymru. I'r diawl a Llywodraeth Llundain, dewch i ni ddechrau bod yn annibynol drwy weithredu fel cenedl a phobol annibynnol a Rydd.

Os na ellir cychwyn,, o ddifrif ar y mymryn gamau bach yma eleni, yna, man a man i ni anghofio'r freuddwyd am ad-ennill Annibyniaeth a rhoi gorau i 'falu cachu' ar y pwnc. Eleni bydd y prawf parthed hyd ein hymrwymiad o ddifrif i'r ymgyrch. Wedi'r Jiwbili Platinwm, daw mwy o arwisgiadau brenhinol a bydd y freuddwyd drosodd am byth!

Gweler isod Baner Glyndŵr yn chwifio uwchben y Cynulliad (fel ag yr oedd) Anrhegwyd y faner enfawr yma, un o ddwy o faneri trwm wedi eu brodio, gan Lysgenhadaeth Glyndŵr i'r Cynulliad mewn seremoni arbennig ar gyfer yr achlysur yn y flwyddyn 2001. Noddwyd y ddwy faner gan Siop Crefftau'r Castell, Caerdydd a gyflawnwyd yr orchwyl o drosglwyddo'r faner i Lywydd y Cynulliad sef, Dafydd Elis Thomas gan Alcwyn ap Deiniol, ar ran ei dad, Dr Gwynfor Evans. Roedd Gwynfor yn Llywydd Anrhydeddus ar Lysgenhadaeth Glyndŵr ac yn methu a bod yn bresennol i anrhegu'r faner ei hunain gan fod ei iechyd wedi dirywio.



Addawodd Dafydd Elis gerbron y gwahoddedigion i'r achlysur y byddai yn sicrhau y byddai'r faner yn cael ei chwifio'n flynyddol uwchben yr adeilad ar Fedi 16, tybed all rhywun gadarnhau os yw'r addewid yn cael ei gadw ato.



Anrhegwyd yr ail faner i'r Eisteddfod Genedlaethol sydd wedi ei chwifio'n flynyddol uwchben y pafiliwn cyn i Covid daro.







Comments

Popular posts from this blog

THE TRUE NATIONAL FLAG OF CYMRU.

MAE'R FRWYDR YN PARHAU!...THE STRUGGLE CONTINUES

WHY ARE CERTAIN ELEMENTS SO AFRAID OF THE GLYNDŴR CYMRIC INDEPENDENCE FLAG?