STWFFIWCH EICH JIWBILI!
Wel, dyma ni, cafodd Jiwbilî Platinwm brenhines Lloegr ei lansio dydd Sul diwethaf y 6ed o Chwefror, ydach chi gyd yn barod am y gorlifiad o Brydeindod? - a tydio ddim yn mynd i ddiweddu ar ddiwedd y flwyddyn yma, o na tydio ddim.
https://shop.royalmail.com/special-stamp-issues/queens-platinum-jubilee?PSID=Google_PPC&cid=SC_FY2122_SM_71700000090424309_58700007652514271&gclid=Cj0KCQiAgP6PBhDmARIsAPWMq6lK_P7KwRbJgmU_efI3XnZ-PwXmQeuD_BXHZ-jmFwNVR7JRoPrtfR0aAmJTEALw_wcB&gclsrc=aw.ds
Peidiwch â chael eich twyllo am eiliad i feddwl mai prif nod yr ymarferiad diweddaraf yma o 'gyflyru trefedigaethol' sydd i gymryd lle eleni yw nodi 70 mlynedd Beti ar yr orsedd, o na, y prif bwrpas tu ôl i'r sioe yw i'n clymu yn fwy cadarnach fyth i Brydain Fawr sydd ar chwal.
DIM AM BRYNU MEWN I DDIM O HYN?
OS FELLY, DIM DEWIS OND I
FRWYDRO'N ÔL!
Treuliwch yr uchod - os ellwch stumogi'r cyfan ac yna, byddwch yn barod i YMLADD NÔL os ydych o ddifrif ynglŷn am ad-ennill Annibyniaeth i Gymru . Does dim amser i 'w wastraffu, on na wnawn roi 100% i'r achos a chychwyn gweithredu o ddifrif, byddem, fel cenedl yn parhau i fod yn gaeth i'n cadwynau ac o dan reolaeth estron, Tydi'r sefyllfa yna ddim yn mynd i ffwrdd. Darllennwch y penawdau yn y papurau uchod; mae'r Drefn Prydeinig wedi bod yn brysur yn cynllunio yn bell i'r dyfodol ar gyfer ein cenedl. Bwriedir i Beti ymddeol y flwyddyn nesaf ac, heb unrhyw amheuaeth, cynhelir dathliad drudfawr arall ar bwrs y wlad ar gyfer hynny, yna, un arall gyda Carlo yn cael ei goroni, ac yna, wrth gwrs, ceir Arwisgiad William yn Dywysog Seisnig arall ar Gymru yng Nghaernarfon. Os nad ydych am weld hynny'n cymryd lle, yna BRWYDRWCH YN ÔL! Nawr, eleni, yw'r cyfle olaf..neu byth!
Bydd y post nesaf yn amlinellu syniadau parthed yr hyn yr ellir ei gyflawni mewn gwirionedd yng Nghymru os wnawn uno mewn ymgyrch cenedlaethol i 'frwydro'n ôl . Dewch i ni ddangos i'r byd i ni fod wedi cael llond bol ar gael ein sathru dan droed Prydain ac i ni , o'r diwedd, fod am godi oddi ar ein gliniau i FRWYDRO'N ÔL hys nes byddem wedi llwyddo i adennill ein hannibyniaeth.
Comments
Post a Comment